Papur Briffio ar gyfer y Pwyllgor Deisebau

Rhif y ddeiseb: P-05-707

Teitl y ddeiseb: Rhaid i hyfforddiant athrawon gynnwys hyfforddiant statudol ar awtistiaeth

Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yn rhaid i hyfforddiant athrawon gynnwys hyfforddiant statudol ar awtistiaeth.  Un o brif bryderon y rhai sy'n gofalu am bobl ag awtistiaeth yw diffyg dealltwriaeth ymhlith athrawon ac eraill sy'n gweithio yn y proffesiwn addysg. Er bod safon addysgu yng Nghymru yn  uchel, gellid ei wella ymhellach drwy godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth, yn enwedig o gofio pa mor gyffredin yw’r cyflwr yn ein cymdeithas erbyn hyn. Fel rhan o’r adolygiad o hyfforddiant athrawon yn Lloegr, cynigir bod anghenion addysgol arbennig, gan gynnwys awtistiaeth, yn rhan allweddol o’r hyfforddiant. Rhaid i'r adolygiad o hyfforddiant cychwynnol athrawon yng Nghymru sicrhau bod athrawon yn cael hyfforddiant penodol a statudol i gynorthwyo pobl ag awtistiaeth mewn ysgolion.

Cefndir

Ar hyn o bryd nid yw Llywodraeth Cymru yn pennu cynnwys cyrsiau Addysg Gychwynnol i Athrawon, a gaiff ei alw hefyd yn Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon (HCA).  Mae sefydliadau sydd wedi’u hachredu i ddarparu cyrsiau HCA yn cynllunio cynnwys a strwythur y cyrsiau ac yn darparu hyfforddiant i alluogi athrawon dan hyfforddiant i ddangos eu bod wedi cyrraedd safonau statws athrawon cymwysedig (SAC). Datganiad o ganlyniadau yw’r rhain ac maent yn amlinellu'r hyn y mae’n rhaid i athrawon dan hyfforddiant ei wybod a’i ddeall a’r hyn y mae’n rhaid iddynt fedru ei wneud ar ddiwedd eu cwrs.  Cânt eu diweddaru o bryd i'w gilydd gan Lywodraeth Cymru, a gwnaed hynny ddiwethaf yn 2009.

Ym mis Mehefin 2015, dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd, ei fod yn derbyn bod angen adolygu a chysoni safonau statws athrawon cymwysedigâ safonau proffesiynol ehangach ar gyfer y gweithlu addysg, a’i fod wedi comisiynu grŵp cyfeirio mewnol i ddechrau datblygu’r safonau proffesiynol.

Yn ei llythyr at y Pwyllgor, dywedodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, y bydd diwygiadau yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr achrededig HCA  gynllunio a chyflwyno cyrsiau sy'n hybu pedwar diben a chwe maes dysgu’r cwricwlwm newydd sy’n cael ei ddatblygu’n dilyn adolygiad yr Athro Graham Donaldson.

Y camau a gymerodd y Cynulliad eisoes

Trafodwyd anghenion addysgol arbennig (er nad awtistiaeth yn benodol) ac HCA dair gwaith gan wahanol bwyllgorau'r Cynulliad.

Cynhaliodd y Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes ymchwiliad i Anghenion Addysgol Arbennig: Adnabod ac Ymyrryd yn Gynnar   (2004), a chyflwynodd y Pwyllgor Menter a Dysgu adroddiad y Grŵp Rapporteur ar Ddyslecsia (2008) gan argymell y dylai cyrsiau HCA gynnwys gwybodaeth am anghenion addysgol arbennig (AAA) i sicrhau bod athrawon dan hyfforddiant yn deall y problemau cysylltiedig yn well. Pan fu’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn  ystyried gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion emosiynol ac iechyd meddwl (2010), tynnwyd sylw swyddogion Llywodraeth Cymru at y mater eto.

Roedd ymatebion Llywodraeth Cymru yn debyg. I grynhoi, dywedodd fod yr amser sydd ar gael ar gyrsiau HCA i astudio meysydd mwy arbenigol yn brin ac na ellir rhoi sylw cynhwysfawr i bob agwedd. Byddai’n well darparu hyfforddiant AAA mwy trylwyr wedi i athrawon gwblhau eu hyfforddiant a’u blwyddyn gynefino.

Bil Awtistiaeth

Fel rhan o'r fargen rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn dilyn etholiad Mai 2016, gwnaed addewid i gyflwyno Bil Awtistiaeth.  Ym mis Gorffennaf 2016, dywedodd y Prif Weinidog fod Llywodraeth Cymru yn ystyried pa ddeddfwriaeth y dylid ei chyflwyno i gryfhau hawliau defnyddwyr gwasanaethau.  Ym mis Gorffennaf 2016, dywedodd y Prif Weinidog fod y Pwyllgor Cyswllt yn ystyried Bil Awtistiaeth, gan drafod sut y gellid datblygu deddfwriaeth ar awtistiaeth, ac a ellid cryfhau’r Cynllun Gweithredu ar Awtistiaeth drwy roi sail statudol iddo.

Mae Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth wedi bod yn lobïo’r Cynulliad i gyflwyno Bil Awtistiaeth.  Yn ei hadroddiad,  Deddf Nawr: Deddf Awtistiaeth i Gymru  dywedodd y Gymdeithas y gallai Bil Awtistiaeth gynnwys adran i 'sicrhau bod fframwaith clir ar gyfer hyfforddiant athrawon'.

Mewn datganiad ar 12 Gorffennaf 2016, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:

" Dylai pob ymarferydd gael y datblygiad sgiliau craidd i gefnogi ystod eang o gymhlethdod isel, ond nifer uchel o ADY o fewn lleoliadau, a mynediad at ddatblygiad proffesiynol parhaus. Dylai pob lleoliad ysgol gael mynediad ar unwaith at un unigolyn â sgiliau uwch. Rwyf eisiau datblygu'r swydd cydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol, a fydd yn disodli'r Cydlynwyd AAA presennol. A dylai pob lleoliad addysg gael mynediad at unigolion â sgiliau arbenigol, er enghraifft, seicolegwyr addysgol, athrawon sy’n arbenigo ar y rhai â nam ar eu golwg neu eu clyw, a therapi lleferydd.  "

Yng nghyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 13 Gorffennaf 2016, holwyd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg am fodiwlau penodol mewn cyrsiau HCA a oedd yn ymwneud ag awtistiaeth.  Meddai:

"“we are looking at the additional learning needs legislation that we’re bringing forward. It is about ensuring that everybody in a classroom situation does have some knowledge of high-incidence, low-complexity additional learning needs.”

Adolygu hyfforddiant athrawon yn Lloegr

Yn Lloegr, fel yng Nghymru, nid ywy’r Llywodraeth yn pennu cynnwys cyrsiau HCA, ond mae’n ofynnol i ddarparwyr HCA sicrhau bod cyrsiau’n cael eu cynllunio a’u darparu i alluogi athrawon dan hyfforddiant i ddangos eu bod yn cyrraedd y safonau gofynnol i ennill Safon Athrawon Cymwysedig.

Ym mis Mawrth 2015, penodwyd Stephen Munday CBE i gadeirio grŵp arbenigol annibynnol i ddatblygu fframwaith cynnwys craidd newydd ar gyfer cyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon. Cyhoeddwyd ei adroddiad, sef a Framework of Core Content for Initial Teacher Training ar 12 Gorffennaf 2016.  Mewn perthynas ag awtistiaeth, mae'r fframwaith yn datgan:

“[ITT] Providers should equip trainees to analyse the strengths and needs of all pupils effectively, ensuring that they have an understanding of cognitive, social, emotional, physical and mental health factors that can inhibit or enhance pupils’ education.  Providers should ensure that trainees understand the principles of the SEND [special educational needs and disability] Code of Practice, are confident working with the four broad areas of need it identifies, and are able to adapt teaching strategies to ensure that pupils with SEND (including, but not limited to, autism, dyslexia, attention deficit hyperactivity disorder (ADHD), sensory impairment or speech, and language and communication needs (SLCN)) can access and progress within the curriculum. Providers should ensure that SEND training is integrated across the ITT programme.”

Wrth ymateb, cytunodd Nicky Morgan, yr Ysgrifennydd Addysg, â’r argymhelliad y dylai’r Adran Addysg fabwysiadu’r fframwaith.  Dywedodd y bydd angen i bob un o ddarparwyr HCA sicrhau bod eu rhaglenni’n cyd-fynd â’r fframwaith.  Mae'r adran yn disgwyl defnyddio'r fframwaith fel rhan o'r meini prawf ansawdd ar gyfer dyraniadau HCA yn ystod blwyddyn academaidd 2018/19.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.  Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.